Mae lleihau allyriadau eich busnes nid yn unig yn dod â buddion i’ch busnes a’r gymuned ehangach, ond mae hefyd yn cyfrannu at darged y llywodraeth o gyflawni allyriadau sero-net erbyn 2050.

Yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus a barodd ddwy flynedd, rydym yn falch o lansio ein Gwasanaeth Cynaliadwyedd. Drwy’r gwasanaeth hwn, gallwch gael mynediad at y Clwstwr Cynaliadwyedd, cymorth B Corp, a chynllun pwrpasol i leihau carbon.

Beth yw cynllun lleihau carbon?

Mae cynllun lleihau carbon yn rhaglen mapio sy’n cael ei chreu gan fusnesau neu sefydliadau i leihau eu hallyriadau carbon a’u hôl troed amgylcheddol. Mae’n gosod targedau ar gyfer lleihau allyriadau, yn amlinellu strategaethau i gyflawni’r nodau hyn, ac yn olrhain cynnydd dros amser.

Mae’r cynlluniau hyn yn aml yn cynnwys mesurau fel hybu effeithlonrwydd ynni, mabwysiadu ffynonellau ynni adnewyddadwy, a hyrwyddo arferion cynaliadwy i helpu i frwydro yn erbyn newid hinsawdd.

Production line at Puffin Produce

Sut gallwn ni gefnogi eich busnes?

Bydd busnesau’n cael cymorth gan gynghorydd technegol arbenigol i:

sefydlu llinell sylfaen ar gyfer eu hôl troed carbon;

  1. Sefydlu gwaelodlin ar gyfer eu hôl troed carbon
  2. Datblygu cynllun lleihau carbon gyda tharged o gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, gan gynnwys targedau mesuradwy i helpu eich busnes i flaenoriaethu gweithgareddau lleihau carbon gydag amcangyfrif clir o arbedion carbon
  3. Ymweld â’ch safle (lle bo’n briodol) i ddeall eich busnes yn well

Enghreifftiau o fusnesau rydyn wedi’u cefnogi

Dysgwch fwy am sut mae’r cynllun peilot wedi bod yn helpu busnesau bwyd a diod o bob cwr o Gymru:

Sut gall eich busnes gymryd rhan?

I ymuno â’r cynllun, cysylltwch â ni ar yr e-bost isod a chynnwys “Cefnogaeth Cynlluniau Lleihau Carbon” yn y llinell bwnc.

Cofrestrwch heddiw

 

 

Straeon cysylltiedig

Road closed due to flooding

Modiwlau Hyfforddiant Addasu a Gwydnwch i Newid Hinsawdd

Drwy gydnabod y risgiau a’r cyfleoedd y mae newid hinsawdd yn eu cyflwyno a gwneud addasiadau ystyriol, gall eich busnes bwyd neu ddiod gryfhau ei wydnwch i ddelio ag aflonyddwch yn eich cadwyni cyflenwi, cymryd camau i leihau neu osgoi effeithiau negyddol ar eich safleoedd, llwybrau mynediad, pobl a chwsmeriaid, a manteisio ar y cyfleoedd a all godi.

aerial sea view

Busnesau B Corp sy'n arwain yng Nghymru

Mae B Corp yn cael ei ystyried yn safon aur ryngwladol ar gyfer cynaliadwyedd. Mae’n cynnwys ymagwedd gyfannol sy’n gofyn am ymgysylltiad o bob agwedd ar fusnes i gynnal ei achrediad. Mae hyn yn cynnwys sut mae’r busnes yn gweithredu, ei strwythur, ei weithwyr a’i brosesau cynhyrchu, ochr yn ochr â thryloywder ac atebolrwydd.