Rydym yn falch o ansawdd ac amrywiaeth y bwyd a diod sy’n cael eu cynhyrchu yng Nghymru, a'r ffaith eu bod yn cystadlu ar lwyfan y byd. Rydym yma i feithrin a chefnogi pob busnes sy'n ymwneud â'r diwydiant, o fragwyr, pobyddion, gweithgynhyrchwyr a phroseswyr, hyd at fanwerthu ac allforwyr, i dwristiaeth – lle bynnag yr ydych a beth bynnag a wnewch.
Mae bwyd a diod yn faes economaidd â blaenoriaeth yng Nghymru, ac mae'r twf a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn rhyfeddol. Ein bwriad yw parhau i adeiladu ar y llwyddiant hwn a'i wneud hyd yn oed yn well, drwy gefnogi pawb ynddo i barhau i ddangos i'r byd pam mae Cymru wir yn genedl o arloeswyr bwyd a diod.
Er ein bod yn angerddol, rydym hefyd yn gyfrifol. Yn sail i'r holl waith o wneud a dosbarthu bwyd a diod mae haen o bolisïau cadarn sy'n helpu'r diwydiant i ffynnu. Byddwn yn parhau â hyn, a bydd ein hethos craidd yn ysgogi llwyddiant trwy gydweithio. Wrth wraidd ein llwyddiant mae partneriaeth wirioneddol rhwng busnesau, y byd academaidd a'r llywodraeth – nawr ac yn y dyfodol.
Ein gweledigaeth yw creu sector bwyd a diod cryf a bywiog yng Nghymru, sydd ag enw da byd-eang am ragoriaeth, wedi’i ategu gan un o’r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd.
Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru
Strategaeth Fwyd Genedlaethol i Gymru
© Hawlfraint y Goron / Crown Copyright
Gweithio mewn ffordd cydgysylltiedig ar gyfer llwyddiant bwyd a diod
Trosolwg byr a syml o bolisïau a gweithgareddau bwyd Llywodraeth Cymru
Creu awydd cryf am gynnyrch Cymreig
Gwerth “Cymreictod”: deall gwerth cynnyrch wedi'i frandio'n Gymraeg i siopwyr a gwesteion yng Nghymru, ac ar draws y DU.
Darganfod mwy
Diwydiant Bwyd a Diod Cymru Mewn Ffigurau
Mae’r Gwerthusiad Economaidd yn rhoi gwybodaeth am berfformiad y sector Bwyd a Diod yng Nghymru.
Bwletin allforio Bwyd a Diod Cymru
Gwybodaeth ar werth a nifer yr allforion bwyd a diod o Gymru.
Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru
Helpu tyfu, hyrwyddo a gwella enw da diwydiant bwyd a diod Cymru.
Strategaeth Bwyd Cymunedol
Dysgwch am Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru, sy'n annog cynhyrchu a chyflenwi bwyd lleol yng Nghymru.
Before you start...
Cwcis
Mae’r ffaith eich bod chi’n parhau i ddefnyddio’r wefan hon yn awgrymu eich bod chi’n cydsynio i’n defnydd o gwcis. Ein polisi cwcis.