Boed yn gyngor pwrpasol ar allforio, gan gynnwys eich helpu i ymweld â sioeau masnach tramor, cymorth hyfforddi un i un ar helpu eich busnes i ddod yn fwy cynaliadwy neu fynediad at y data marchnad diweddaraf – mae ein cymorth wedi'i gynllunio i helpu i ymdopi â heriau'r gadwyn gyflenwi bwyd a diod gyfan.
Dysgwch fwy isod am y cymorth wedi'i deilwra y gallwn ei gynnig i fusnesau i'w helpu i ffynnu a llwyddo. Dros y blynyddoedd rydym wedi meithrin perthynas waith agos iawn â'r diwydiant, ac mae ein tîm profiadol o arbenigwyr bob amser wrth law i helpu.
Rydym yn falch o'n pecyn cymorth digyffelyb i fusnesau bwyd a diod Cymru, wrth i ni geisio creu'r amgylchedd cywir i'r diwydiant barhau i dyfu'n gynaliadwy ac yn gyfrifol.
Mae rhai o'r rhaglenni a'r prosiectau hyn yn cynnig cymorth ariannol, eraill yn cynnig cyngor, tra bod rhai yn cynnig y cyfle i ymuno â phartneriaethau cydweithredol sy'n agor cyfleoedd i brofi arfer gorau a syniadau newydd. Mae pob un wedi'i gynllunio i greu cyfleoedd go iawn i chi wneud eich busnes yn well.
P'un a ydych chi'n ystyried cymryd y cam nesaf yn eich datblygiad ac allforio, neu'n fusnes sy'n ystyried buddsoddi yng Nghymru, mae gennym becyn o fesurau cymorth ehangach sy'n cwmpasu popeth o gymorth i sefydlu busnes yng Nghymru hyd at fynediad at y data diweddaraf am y farchnad.
'Dynodiad Daearyddol' neu ‘Geographical Indication’ (GI): Term diymhongar, ond un sy'n gwneud gwahaniaeth mawr wrth rannu ein balchder ym mwyd a diod gorau Cymru. P'un a yw defnyddwyr yn ceisio’r dynodiad yng Nghymru neu ledled y byd, mae gan ein cynhyrchion GI ansawdd, dilysrwydd a threftadaeth nodedig man naturiol eu tarddiad.
Mae’r rhain yn dod â busnesau bwyd a diod, cyflenwyr, y byd academaidd a'r llywodraeth ynghyd gyda'r prif amcan o helpu busnesau i gydweithio i gyflawni twf cyflymach mewn gwerthiant, elw a gwell cynhyrchiant.
Blas Cymru / Taste Wales yw'r prif ddigwyddiad yng Nghymru ar gyfer y sector. Cewch arddangos eich cynhyrchion i brynwyr blaenllaw yn y diwydiant o fanwerthu a gwasanaethau bwyd, rhwydweithio â phobl allweddol yn y diwydiant bwyd a diod, yn ogystal â darganfod cynhyrchion a thueddiadau arloesol.
Dysgwch fwy am rai o'r straeon llwyddiant o ganlyniad i gydweithio rhwng Bwyd a Diod Cymru a'n cymuned fusnes.