Mae cymorth cynhwysfawr sydd wedi'i ariannu'n llawn ar gael i helpu eich busnes i wella arferion cynaliadwy a datblygu cynlluniau cadarn i leihau allyriadau carbon ac addasu i newid hinsawdd. Rydym yn cynnig llawer mwy nag arweiniad yn unig – o arddangos cyfleoedd mewn digwyddiadau’r diwydiant a rhaglenni hyfforddi arbenigol i gymorth pwrpasol un-i-un ar gyfer ardystiadau B Corp a fframweithiau cynaliadwyedd eraill sy'n arwain at effaith amgylcheddol wirioneddol.
Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth i greu un o’r cadwyni cyflenwi bwyd a diod mwyaf cynaliadwy yn y byd.