A allai eich busnes ddod yn B Corp?
Mae portffolio B Corp Cymru yn blodeuo. Gyda Llywodraeth Cymru yn darparu mynediad at arbenigedd a hyfforddiant i fusnesau ddod yn fwy gwyrdd ac yn fwy cynaliadwy, mae’n caniatáu i fusnesau ddod yn nes o lawer at eu nodau cynaliadwyedd, gan gynnwys B Corp.
Mewn byd sy’n fwyfwy ymwybodol o anghenion amgylcheddol y blaned, mae’n dod yn rhagofyniad i gynhyrchwyr bwyd a diod gynhyrchu eu nwyddau gyda chynaliadwyedd yn flaenllaw yn eu meddyliau.
Mae’n debygol yn y tymor hir mai’r manwerthwyr a’r gweithgynhyrchwyr sy’n dangos cyfrifoldeb busnes drwy welliannau cynaliadwy mewn gwerthoedd amgylcheddol, cymdeithasol, iechyd ac ansawdd fydd yn cael eu ffafrio fwyaf gan ddefnyddwyr.
Bod yn garedig wrth eich staff a’r blaned, ochr yn ochr â chymorth gan Lywodraeth Cymru, onid yw’n bryd ichi ymuno â chymuned B Corp? Cysylltwch â’r Clwstwr Cynaliadwyedd a dechreuwch eich taith tuag at ddiwydiant bwyd a diod mwy cynaliadwy yng Nghymru.
Cysylltwch â ni i ddysgu mwy am sut allwn eich helpu: sustainablefd@gov.wales