Pam ddylai fy musnes addasu i newid yn y hinsawdd?

Mae busnesau gweithgynhyrchu bwyd a diod yn ymdrechu i reoli eu gweithrediadau mewn ffyrdd cynaliadwy. O leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr (GHG) drwy fuddsoddi mewn ynni adnewyddadwy, gwella effeithlonrwydd ynni yn y broses weithgynhyrchu, a lleihau’r defnydd o ddŵr, i adolygu polisïau cyrchu ar gyfer deunyddiau crai a phecynnu — mae busnesau’n gweithredu i liniaru eu heffeithiau amgylcheddol ac arafu’r gyfradd newid hinsawdd.

Fodd bynnag, er gwaethaf yr ymdrechion ar y cyd hyn, mae newid yn y hinsawdd yn rhywbeth na ellir ei osgoi bellach ac fe fydd yn parhau i effeithio ar Gymru yn y blynyddoedd i ddod. Felly mae’n bwysig, wrth i ymdrechion i liniaru newid yn y hinsawdd barhau, bod eich busnes hefyd yn addasu i’r risgiau a’r cyfleoedd sy’n codi.

Er mwyn annog busnesau i ddod yn fwy ymwybodol o’r hinsawdd yn eu gweithgareddau beunyddiol, rydym wedi datblygu cyfres o fodiwlau hyfforddiant i roi cymorth ymarferol i ddatblygu’r sgiliau a’r dulliau sydd eu hangen i ymdopi’n llwyddiannus â digwyddiadau annisgwyl.

Workers putting out sand bags to protect against flooding

Sut i ddefnyddio’r modiwlau hyfforddiant

Mae’r modiwlau hyfforddiant wedi’u cynllunio fel canllawiau i’ch helpu i asesu eich busnes yng nghyd-destun newid yn y hinsawdd.

Er bod pob busnes bwyd a diod yn unigryw, gobeithiwn y bydd dewis a gweithredu ar y modiwlau mwyaf perthnasol i’ch busnes yn eich helpu i greu fframwaith i benderfynu pa addasiadau sydd eu hangen i wneud eich busnes yn fwy gwydn i newid hinsawdd — yn awr ac yn y dyfodol.

Drwy gydol y modiwlau fe welwch enghreifftiau, cyfeiriadau a dolenni i restrau gwirio a thempledi y gellir eu golygu i’ch cynorthwyo wrth asesu a gweithredu’r newidiadau a ddymunir yn eich busnes.

  • Y Canllaw Hanfodol i Barhad Busnes mewn Hinsawdd sy’n Newid Paratowch eich busnes bwyd a diod ar gyfer newid yn yr hinsawdd

    Mae newid hinsawdd yn llunio dyfodol gweithgynhyrchu bwyd a diod yng Nghymru. Er bod busnesau’n parhau i dorri allyriadau a gwella effeithlonrwydd, mae addasu i risgiau hinsawdd yn hanfodol ar gyfer gwydnwch hirdymor.

    Mae ein Canllaw Hanfodol yn dwyn ynghyd hyfforddiant ymarferol a mewnwelediadau o 8 modiwl i helpu busnesau i baratoi ar gyfer ansicrwydd ac adeiladu gwydnwch hinsawdd.

    Lawrlwythwch

  • Modiwl 1: Cyflwyniad i Addasu i Newid yn y Hinsawdd

    Mae’r modiwl hwn yn gosod y cyd-destun ar gyfer yr Hyfforddiant Addasu a Gwydnwch i Newid Hinsawdd, gan gynnwys trosolwg o newid hinsawdd, y rhagolygon newid hinsawdd ar gyfer Cymru, a pham fod addasu’n bwysig i fusnesau bwyd a diod.

    Gallwch lawrlwytho’r modiwl, ynghyd â gwylio’r fideo sydd yn cydfynd â’r cwrs isod.

    Lawrlwythwch

    Watch video
  • Modiwl 2: Cyflwyno Rheoli Risg a Newid ac ymagwedd CCACCP

    Gall digwyddiad difrifol sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd darfu ar barhad busnes mewn sawl ffordd wahanol. Felly mae’r modiwl hwn yn cyflwyno’r cysyniad o CCACCP, sef Dadansoddiad Ymwybodol o’r Hinsawdd a Phwyntiau Hinsawdd Critigol, fel dull ymarferol a systematig o asesu, blaenoriaethu a mynd i’r afael ag effeithiau, risgiau a chyfleoedd newid hinsawdd i’ch busnes.

    Gan ddefnyddio dull systematig CCACCP, bydd yr hyfforddiant hwn yn awgrymu ffyrdd syml ond effeithiol y gall eich busnes eu dilyn i ymdrin â newid hinsawdd. Mae’n amlinellu’r paratoadau y gallwch eu gwneud cyn wynebu amodau tywydd eithafol a allai effeithio ar eich busnes.

    Gallwch lawrlwytho’r modiwl, ynghyd â gwylio’r fideo sydd yn cydfynd a’r cwrs isod.

    Lawrlwythwch

    Watch video
  • Modiwl 3: Safleoedd a Mynediad

    Y maes ffocws cyntaf hwn yw’r adeiladau a’r safleoedd sy’n ffurfio lleoliadau pwysig i’ch busnes, ynghyd â’r ffyrdd y cânt eu cyrchu. Mae llawer o orgyffwrdd rhwng safleoedd a mynediad a’n pum pwnc arall, ond yma rydym yn canolbwyntio ar adeiladau corfforol, tir, a’r llwybrau sy’n galluogi staff a nwyddau i gyrraedd y lleoliadau hyn.

    Lawrlwythwch

    Watch video
  • Modiwl 4: Gweithgynhyrchu a Chynhyrchu Bwyd

    Os ydych yn prosesu, cynhyrchu neu weithgynhyrchu eich ystod o gynhyrchion ar eich safle eich hun, bydd y modiwl hwn yn eich helpu i ystyried eich llinellau cynhyrchu yn fanylach drwy fapio llif eich prosesau o’r dechrau i’r diwedd ac “cerdded y llinellau” i sicrhau nad ydych yn colli unrhyw beth pwysig sy’n ymwneud â risgiau hinsawdd. Fel arall, os ydych yn defnyddio gweithgynhyrchwr contract, bydd y modiwl hwn yn eich helpu i ofyn y cwestiynau cywir i sicrhau bod eich partner gweithgynhyrchu contract yn ymwybodol o’r hinsawdd.

    Lawrlwythwch

    Watch video
  • Modiwl 5: Cadwyni Cyflenwi a Mewnbynnau Busnes

    Mae cynnal eich cadwyn gyflenwi yn rhan hanfodol o allu i weithredu eich busnes. Bydd y modiwl hwn yn eich helpu i asesu bregusrwydd eich cadwyn gyflenwi drwy ddull cam wrth gam methodolegol.

    Lawrlwythwch

    Watch video
  • Modiwl 6: Ystyriaethau Cyllid a Cyfreithiol

    Bydd Modiwl 6 yn archwilio sut y gall bygythiadau a chyfleoedd sy’n deillio o newid hinsawdd effeithio ar gyllid eich busnes a’ch rhwymedigaethau cyfreithiol, ac yn awgrymu rhai dulliau ymarferol o addasu a fydd yn cryfhau eich busnes yn y dyfodol.

    Lawrlwythwch

    Watch video
  • Modiwl 7: Staff a Darparwyr Gwasanaeth

    Bydd y modiwl hwn yn ystyried sut y gall newid hinsawdd effeithio ar eich staff a’ch darparwyr gwasanaethau. Mae’n amlinellu syniadau i adnabod unigolion bregus ac i ddarparu addasiadau priodol a fydd yn eu galluogi i barhau i fod yn aelodau cynhyrchiol o’ch tîm.

    Lawrlwythwch

    Watch video
  • Modiwl 8: Cwsmeriaid a Defnyddwyr

    Mae Modiwl 8 yn ystyried sut y mae newid hinsawdd yn cyflwyno bygythiadau a chyfleoedd yn eich perthnasoedd â’ch cwsmeriaid a’r rhai sy’n defnyddio eich cynhyrchion yn y pen draw. Mae’r modiwl hwn yn awgrymu rhai ffyrdd y gall eich busnes addasu i leihau effaith risgiau ac i hybu’r manteision y gall newid hinsawdd eu cynnig, yn awr ac yn y blynyddoedd i ddod.

    Lawrlwythwch

    Watch video

Straeon cysylltiedig