Cyfarfu'r cynrychiolwyr â'r Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth yn ystod yr ymweliad i drafod cyfleoedd i fuddsoddi mewn meysydd gan gynnwys amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig, seilwaith cynhyrchu bwyd a thechnoleg amaethyddol. 

Dywedodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth: "Mae gan Gymru berthynas hir a llwyddiannus â Japan, gan ein bod yn gartref i fwy na 70 o fusnesau sy'n eiddo i Japan sy'n cyflogi miloedd o bobl ledled y wlad. 

"Roedd yn bleser croesawu'r cynrychiolwyr o Japan i Faes Sioe Frenhinol Cymru ac arddangos y bwyd a'r diod o safon y mae Cymru'n falch o'u rhannu â'r byd. 

“Rydyn ni eisiau i Gymru fod ar flaen y gad o ran arloesi mewn cynhyrchu bwyd, cynaliadwyedd a thechnoleg amaethyddol, ac mae’r ddirprwyaeth hon yn tynnu sylw at y cyfleoedd i fusnesau rhyngwladol fuddsoddi yma, gan ddod â thechnolegau newydd, creu swyddi medrus a chryfhau ein cadwyni cyflenwi bwyd. 

“Mae’r cydweithio cynyddol rhwng sefydliadau Japaneaidd, Prifysgol Aberystwyth a rhaglen Agile Cymru yn dangos sut y gall Cymru ddod ag ymchwil o’r radd flaenaf, arbenigedd y diwydiant a chefnogaeth y llywodraeth ynghyd i ysgogi arloesedd.” 

Roedd y ddirprwyaeth yn cynnwys cynrychiolwyr o sefydliadau blaenllaw o Japan sy'n ymwneud â ffermio fertigol, technoleg amaethyddol a datblygu seilwaith bwyd, yn ogystal â’r Japan Plant Factory Association, a oedd yn awyddus i ddysgu mwy am gryfderau Cymru mewn cynhyrchu bwyd, arloesedd a chynaliadwyedd. 

Japan yw'r ail ffynhonnell fwyaf o fuddsoddi mewnol ar ôl yr Unol Daleithiau. Ers 2012-13, mae Cymru wedi sicrhau 61 o fuddsoddiadau o Japan, tra bod mwy na 70 o gwmnïau sy'n eiddo i Japan yn gweithredu ledled y wlad ar hyn o bryd, gan gyflogi tua 7,400 o bobl. 

Mae'r berthynas rhwng Cymru a Japan yn ymestyn dros fwy na 50 mlynedd, gan ddechrau gyda buddsoddiadau gan gwmnïau fel Sony a Panasonic. Heddiw, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda busnesau a sefydliadau Japan i gefnogi buddsoddiad a phartneriaethau ar draws sectorau, gan gynnwys bwyd a diod, ynni glân, lled-ddargludyddion, gwyddorau bywyd a'r diwydiannau creadigol. 

Mae masnach hefyd yn parhau i fod yn rhan bwysig o'r berthynas, gyda Cymru'n allforio nwyddau gwerth dros £282 miliwn i Japan yn 2025. 

Japanese delegation

Yn ystod yr ymweliad, cyfarfu'r criw â chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, diwydiant a’r byd academaidd i ddysgu mwy am gryfderau a chyfleoedd ymchwil Cymru o fewn amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig. Bu’r trafodaethau’n canolbwyntio ar sut y gall buddsoddi ac arloesi gefnogi systemau bwyd gwydn a thwf cynhyrchiant ar draws y sector bwyd a diod. 

Tynnodd y daith sylw hefyd at gydweithio sy'n dod i'r amlwg rhwng sefydliadau Japaneaidd a Phrifysgol Aberystwyth trwy Agile Cymru, sy’n cefnogi cyfnewid gwybodaeth ac ymchwil mewn amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig. 

Dywedodd yr Athro John Doonan, Cyfarwyddwr y Ganolfan Ffenomeg Planhigion Genedlaethol, cyfleuster a ariennir gan y BBSRC ym Mhrifysgol Aberystwyth: "Mae gan Brifysgol Aberystwyth enw da ers amser maith am ymchwil amaethyddol ac amgylcheddol, ac mae’n bleser gweithio gyda phartneriaid o Japan i archwilio cyfleoedd newydd mewn amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig a chynhyrchu bwyd cynaliadwy. 

"Mae'r cydweithrediad hwn yn cynnig llwyfan cyffrous ar gyfer cyfnewid gwybodaeth, gan ddod ag arbenigedd o Gymru a Japan ynghyd i fynd i'r afael â rhai o'r heriau allweddol sy'n wynebu systemau bwyd byd-eang. Trwy gymryd rhan yn Agile Cymru, rydyn ni’n helpu i greu'r amodau ar gyfer arloesi, buddsoddi a chyfleoedd masnachol a all gynnig buddion i'r ddwy genedl."   

Mae'r ymweliad yn adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd trwy Flwyddyn Cymru a Japan 2025, a lwyddodd i ddathlu a chryfhau’r cysylltiadau economaidd, addysgol, diwylliannol a chwaraeon rhwng y ddwy genedl. Wedi'i chanoli ar gyfranogiad Cymru yn Expo 2025 Osaka, creodd yr ymgyrch gyfleoedd newydd ar gyfer masnach, buddsoddi a chydweithio rhwng sefydliadau Cymru a Japan. 

Share this page