Cefnogi diwydiant bwyd a diod Cymreig cryf a bywiog

Blas o'r gefnogaeth sydd ar gael

Welsh produce on display shelves

Rhaglen Datblygu Masnach

Mae’r Rhaglen Datblygu Masnach yn eich helpu i dyfu eich busnes bwyd a diod a chreu swyddi drwy ymdrin â bylchau sgiliau a chymwyseddau. Mae rhaglenni penodol yn mynd i’r afael â’r bylchau hynny a allai fodoli yn eich busnes.

Foodex Japan 2026

Allforio

Mae allforio’n golygu gwerthu mwy, a mwy o elw. Ond mae’n bwysig cynllunio a pharatoi’n ofalus er mwyn cael mantais gystadleuol. Byddwn yn gweithio gyda chi ar sail un-i-un i deilwra cymorth sy’n benodol i’ch anghenion, gan gyfeirio at y Rhaglen Cefnogi Allforio.

Rhaglen Cywain

Mae'r Rhaglen Cywain yn cynnig cefnogaeth o ansawdd uchel, wedi'u teilwra i gynhyrchwyr bwyd a diod - boed eich bod yn rhedeg busnes newydd, micro, neu fusnes bach a chanolig.

Food technologist at work

Rhaglen HELIX

Mae’n cefnogi busnesau yng Nghymru i ddatblygu cynnyrch arloesol o gysyniad, dylunio, datblygu a gweithgynhyrchu, hyd at fasged siopa’r defnyddiwr, gan helpu busnesau i dyfu a ffynnu.

Awchu am fwy?

Tanysgrifiwch i gael y newyddion diweddaraf am ein diwydiant, a bod gyda'r cyntaf i ddysgu mwy am y gefnogaeth y gallwn ei gynnig i fusnesau bwyd a diod yng Nghymru.

Pembrokeshire Rock Oysters

Enillwyr Cymreig Gwobrau Great Taste

Unwaith eto eleni, mae cynhyrchion o bob cwr o Gymru wedi dod i’r brig yng Ngwobrau Aur Great Taste gan brofi bod gan fwyd a diod o Gymru enw da haeddiannol am ansawdd a blas.

Blas Cymru / Taste Wales event

Blas Cymru / Taste Wales

Lansiwyd Blas Cymru / Taste Wales yn 2017, gyda digwyddiadau dilynol yn cael eu cynnal bob dwy flynedd yn 2019, 2021 a 2023. Mae wedi dod yn ddigwyddiad nodedig a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer diwydiant bwyd a diod Cymru sy'n dod â chynhyrchwyr, cyflenwyr, prynwyr a gweithwyr proffesiynol y diwydiant bwyd at ei gilydd, o bob rhan o'r byd.

World Chefs Congress

Rhaglen Mewnwelediad i’r Farchnad

Mae’r Rhaglen Mewnwelediad i’r Farchnad yn darparu’r wybodaeth ddiweddaraf am y farchnad i fusnesau bwyd a diod Cymru er mwyn galluogi gwneud penderfyniadau gwybodus.

factory

Ymsefydlu yng Nghymru

O gymorth ariannol i seilwaith arloesol, mae Cymru'n cynnig yr amgylchedd delfrydol i fusnesau arloesi a thyfu yn y diwydiant bwyd.