Mae Llywodraeth Cymru, gan weithio gyda'r sectorau bwyd a diod wedi llunio sawl Grŵp Clwstwr yn strategol. Mae'r clystyrau hyn wedi'u datblygu i sicrhau'r twf economaidd mwyaf posibl yng Nghymru a hefyd i ymateb i’r sectorau y mae angen cymorth uniongyrchol Llywodraeth Cymru arnynt. Maent yn dod â phobl o'r un anian ynghyd, gyda'r nod allweddol o helpu busnesau i gydweithio a chyflawni nodau busnes cyffredin.
Mae gan y Rhwydwaith Clwstwr yng Nghymru hanes profedig o lwyddiant, a bydd yn parhau i fod yn uchelgeisiol i gefnogi'r diwydiant i gyflawni newid sylweddol yn hytrach na thwf fesul cam.
Bydd y Rhwydwaith Clwstwr yn rhoi cymorth a chyngor i fusnesau bwyd a diod. Bydd yn hwyluso cyfleoedd i weithio gyda busnesau eraill ar draws y gadwyn gyflenwi, gan gynnig atebion i helpu a chefnogi ei gilydd i oresgyn yr hyn sy’n atal twf, ac i fanteisio ar gyfleoedd masnachol, yn ogystal â helpu i ddatblygu gallu a chapasiti.
Ar hyn o bryd mae 8 clwstwr yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac yn cael eu darparu gan gontractwyr allanol arbenigol.
Clwstwr Defaid Llaeth
Sefydlwyd prosiect Defaid Llaeth Cymru yn 2021 i archwilio dichonoldeb a hyrwyddo datblygiad sector llaeth defaid Cymru sy'n gwella proffidioldeb ffermydd, cynaliadwyedd amgylcheddol, arloesedd yn y sector bwyd a gwydnwch gwledig hirdymor.
Clwstwr Diodydd
Nod y Clwstwr Diodydd yw cefnogi twf trwy gydweithio a chysylltedd â’r diwydiant yn y sector Diodydd.
Clwstwr Allforio
Mae cynhyrchwyr Bwyd a Diod Cymru yn cynnig cynhyrchion o ansawdd uchel i'r byd, gyda tharddiad cryf a stori i'w hadrodd am o ble mae eu bwyd yn dod.
Clwstwr Bwyd Da
Mae’r Clwstwr Bwyd Da yn cynnig llwyfan i fusnesau bwyd a diod uchelgeisiol Cymru nodi a datrys problemau cyffredin gyda'i gilydd trwy rannu gwybodaeth, hyfforddiant a manteisio ar gyfleoedd masnachol ar y cyd fel clwstwr.
Clwstwr Garddwriaeth
Nod y Clwstwr Garddwriaeth yw meithrin cyfleoedd ar gyfer cydweithio Busnes i Fusnes o fewn y gadwyn gyflenwi.
Clwstwr NutriWales
Mae Clwstwr NutriWales yn cysylltu cynhyrchwyr bwyd a diod, y byd academaidd a'r llywodraeth i ganolbwyntio ar ymchwil a datblygu, arloesedd, mewnwelediad a deallusrwydd, a thwf yn y gofod marchnad lle mae bwyd, iechyd, maeth a lles yn cwrdd.
Clwstwr Bwyd Môr
Mae Clwstwr Bwyd Môr (Bwyd Dyfrol) Bwyd a Diod Cymru yn gwasanaethu fel menter datblygu’r diwydiant sydd â’r nod o ddod â busnesau bwyd dyfrol (fel pysgotwyr, gwerthwyr pysgod, a busnesau dyframaethu) ynghyd ledled Cymru gyda'r uchelgais i dyfu, cydweithio, arloesi ac ychwanegu gwerth at fwyd dyfrol yng Nghymru.
Clwstwr Cynaliadwyedd
Rydyn ni wedi cyrraedd pwynt tyngedfennol yn ein hanes lle mae ein gweithredoedd yn bwysicach nag erioed. Mae gan bob dinesydd o bob gwlad y pŵer i gyfrannu ar y cyd at adfywiad ein planed trwy’r bwyd rydyn ni’n ei fwyta.
Before you start...
Cwcis
Mae’r ffaith eich bod chi’n parhau i ddefnyddio’r wefan hon yn awgrymu eich bod chi’n cydsynio i’n defnydd o gwcis. Ein polisi cwcis.