Mae'r clwstwr yn harneisio arbenigedd ym mhrifysgolion Cymru, iechyd y cyhoedd a'r canolfannau bwyd i ysgogi ymchwil a mewnwelediad cydweithredol, arloesedd a datblygu cynhyrchion, a mynediad at farchnadoedd newydd.

Mae aelodaeth ar agor i gynhyrchwyr bwyd a diod Cymru, y byd academaidd, a sefydliadau'r sector cyhoeddus sydd â diddordeb penodol mewn bwyd, a'r berthynas rhwng bwyd, maeth ac iechyd.

Mae NutriWales yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • Gwella buddion maethol bwyd
  • Prosiectau bwyd a thechnoleg amaethyddol
  •  Biowyddoniaeth, gwyddor bywyd ac iechyd trwy faeth
  • Datblygu cynhyrchion sy'n gadarn o ran maeth
  • Maeth ar gyfer heneiddio'n iach

Gall aelodau elwa o ystod eang o gyngor a chymorth gan gynnwys; arbenigedd ar ddatblygu strategaethau Ymchwil a Datblygu, mynediad at gyfleoedd cyllido trwy ffynonellau cyllid Ymchwil a Datblygu, prosiectau cydweithredol (gan gynnwys cydweithio rhyngwladol) i ysgogi arloesedd a datblygu cynhyrchion newydd.

I gael gwybod mwy: bwyd-food@llyw.cymru

Straeon cysylltiedig

Lobster Pot manufacturing

Clwstwr Bwyd Môr

Mae Clwstwr Bwyd Môr (Bwyd Dyfrol) Bwyd a Diod Cymru yn gwasanaethu fel menter datblygu’r diwydiant sydd â’r nod o ddod â busnesau bwyd dyfrol (fel pysgotwyr, gwerthwyr pysgod, a busnesau dyframaethu) ynghyd ledled Cymru gyda'r uchelgais i dyfu, cydweithio, arloesi ac ychwanegu gwerth at fwyd dyfrol yng Nghymru.

Countryside

Sustainability Cluster 

The Sustainability Cluster is part of the Food & Drink Wales Cluster Programme and is aimed at supporting growth through industry collaboration and connectivity. 

Clwstwr Defaid Llaeth

Sefydlwyd prosiect Defaid Llaeth Cymru yn 2021 i archwilio dichonoldeb a hyrwyddo datblygiad sector llaeth defaid Cymru sy'n gwella proffidioldeb ffermydd, cynaliadwyedd amgylcheddol, arloesedd yn y sector bwyd a gwydnwch gwledig hirdymor.

Selection of Welsh wine

Clwstwr Diodydd

Nod y Clwstwr Diodydd yw cefnogi twf trwy gydweithio a chysylltedd â’r diwydiant yn y sector Diodydd.