Mae Rhaglen Cywain yma ar gyfer busnesau bwyd a diod o unrhyw faint ar bob cam o’u datblygiad.
P’un a ydych chi’n rhedeg busnes newydd, micro, neu fusnes bach a chanolig, bydd ein harbenigwyr yn rhoi pecyn wedi’i deilwra at ei gilydd i helpu’ch cwmni i
dyfu a bod yn fwy proffidiol. Rydym yn dechrau gyda diagnostig o’ch busnes a’i anghenion. O’r fan honno, byddwn yn cynnig amrywiaeth o gymorth i chi a allai gynnwys:
- Eich cyflwyno i gysylltiadau â’r diwydiant a helpu i gryfhau’r cysylltiadau rhwng
eich busnes a’r gadwyn gyflenwi - Help i ddatblygu cynnyrch
- Mynediad at offer, mentoriaid ac adnoddau a fydd yn eich helpu i gynyddu eich
busnes - Cyngor ar farchnata a strategaeth busnes, gan gynnwys mynediad at yr ymchwil
ddiweddaraf ar gyfer eich sector
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â bwyd-food@llyw.cymru