Pwrpas Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru yw helpu i dyfu, hyrwyddo a gwella diwydiant bwyd a diod Cymru. Mae’n gweithio mewn partneriaeth â’r diwydiant a’r llywodraeth. Mae’n darparu arweiniad a chyfeiriad i’r diwydiant, yn annog rhwydweithio a rhannu gwybodaeth ac yn cynghori Gweinidogion Llywodraeth Cymru.

Mae ei brif gyfrifoldebau’n cynnwys:

  • Arweinyddiaeth yn y diwydiant bwyd
  • Cynghori gweinidogion a swyddogion
  • Cyfathrebu, hybu, annog a hyrwyddo’r diwydiant
  • Partneriaeth gyda’r llywodraeth, rhanddeiliaid y diwydiant a grwpiau / cyrff cynghori eraill i Lywodraeth Cymru
  • Monitro a gwerthuso, darparu dadansoddiad o ddatblygiadau, tueddiadau a chyfleoedd yn y diwydiant

Mae’r Bwrdd hefyd yn ystyried targedau twf, blaenoriaethau strategol ac yn helpu i hyrwyddo camau gweithredu i ddarparu a chyflawni canlyniadau strategol. Byddant hefyd yn cynghori ar weithrediad a’r adnoddau sydd eu hangen i gyflawni’r canlyniadau strategol hyn. Bydd y Bwrdd yn rhoi cyfeiriad ar wella’r sylfaen sgiliau yn y sector gan ddenu newydd-ddyfodiaid a chadw gweithwyr proffesiynol medrus.

I ddysgu mwy am aelodau o'r bwrdd a'u gweithfareddau mwyaf diweddar, ewch i: Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru | LLYW.CYMRU

Straeon cysylltiedig